
Bwyty • Bar • Café • Siop Win • Ers 1988
Am fwy nag 20 mlynedd mae Dylanwad Da wedi bod yn darparu bwyd a gwin da yng nghanol tref farchnad brydferth Dolgellau.
Yr ydym ar agor yn ystod y dydd fel Café/Bar a Siop Win. Gallwch fwynhau coffi, teisennod a tapas neu alw i mewn i brynu rhai o'r gwinoedd sydd wedi eu dewis yn ofalus gennym. Yr ydym yn le bach, cyfeillgar, gydag awyrgylch hamddenol, prisiau rhesymol a gwasanaeth "swynol, ifanc ac effeithiol".
Mae wedi ei ganmol lawer gwaith mewn adolygiadau o dai bwyta dros y blynyddoedd ac wedi cael ei argymell yn Y Guardian, The Times a'r Daily Post. Mae wedi ei gynnwys ym mhrif restrau'r The Good Food Guide bob blwyddyn er 1990. Nid yw'r Cogydd/Perchennog Dylan Rowlands wedi colli un noson o wasanaeth yn ystod yr holl flynyddoedd hynny!
"This is what bistro eating should be all about" - The Good Food Guide.
"The best restaurant in town." - The Rough Guide To Wales
"Delicious offerings and no pretence ... good sound cooking and immense flair." - The Western Mail
Tapas, Bar a Café: 10 - 3
Bwyty: 7 - 9

Yr ydym yn gallu arlwyo ar gyfer Partion i fyny at 28 o bobl ar gyfer prydau bwffe neu brydau llawn.

Er 2003 mae Gwinoedd Dan Y Dylanwad wedi bod yn mewnforio gwinoedd dethol yn uniongyrchol o Sbaen, Ffrainc, yr Eidal ac Awstria.
Yr ydym hefyd yn cynnal nosweithiau blasu gwin yn gyson - cysylltwch â ni i roi eich enw ar y rhestr bostio.
Mae teithiau blasu yn ystod y gaeaf yn dal i ddatgelu gwinoedd newydd a diddorol o Ewrop sy'n werth da am arian. Maent ar gael i'w hyfed yn Dylanwad Da neu i fynd â nhw allan a gellir eu dosbarthu ledled Prydain.
Follow us on Twitter!
Find us on Facebook!
© 2009 Dylanwad Da. All Rights Reserved | Site made by Cyberium